Rhif y ddeiseb: P-06-1418

Teitl y ddeiseb:  Dylid cyflwyno deddfwriaeth newydd i ddiogelu meysydd chwaraeon rhag baw cŵn

Geiriad y ddeiseb:

Mae baw cŵn ar gaeau chwaraeon yn peri risg ddifrifol i iechyd chwaraewyr o bob oed. Cafwyd bod deddfwriaeth gyfredol, megis Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, yn annigonol ar gyfer atal y broblem hon. O’r herwydd, mae gwirfoddolwyr o glybiau chwaraeon yn gorfod chwilio caeau chwarae am faw cŵn a’i glirio bob tro mae’r caeau’n cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant neu gemau.

Mae angen deddfwriaeth newydd, gan fod y ddeddfwriaeth bresennol yn ddiwerth oherwydd diffyg gorfodi gan awdurdodau lleol.

Mae’r erthygl newyddion a ganlyn yn amlygu’r anafiadau difrifol mae baw cŵn ar gaeau chwaraeon yn gallu eu hachosi:

https://nation.cymru/news/ms-urges-welsh-govt-to-ban-dogs-from-sports-fields/

Mae angen deddfwriaeth newydd i gadw chwaraewyr yn ddiogel, gan fod y gyfraith bresennol wedi bod yn aneffeithiol.

Lle mae cyfleusterau hamdden cyffredinol a chwaraeon yn cael eu cynnig ar yr un meysydd hamdden, dylai awdurdodau lleol gael eu cynghori i roi mesurau cryf ar waith i liniaru'r risg y bydd chwaraewyr yn dod i gysylltiad â baw cŵn. Gallai’r mesurau hyn gynnwys lefelau uwch o orfodi, ffensio caeau chwaraeon, peidio â chaniatáu i gŵn gael eu cerdded oddi ar dennyn ac ati.

Hefyd, dylai fod gan glybiau chwaraeon y gallu i geisio iawndal os oes rhaid i wirfoddolwyr o’r clwb glirio baw cŵn o’r caeau cyn y gellir eu defnyddio.

Nid ydym am wneud mynd â chi am dro’n anoddach; ein nod, yn syml, yw diogelu chwaraewyr.

 


1.        Y cefndir

Mae’n anghyfreithlon i berchnogion cŵn beidio â glanhau baw eu cŵn mewn man cyhoeddus. Mae esemptiad ar gyfer rhai mathau o dir cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys: tir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth neu goetiroedd; tir comin gwledig; tir sy’n gorstir, rhostir neu weundir yn bennaf; a phriffyrdd gyda therfyn cyflymder o 50mya neu fwy.

Mae gan awdurdodau sbwriel ddyletswydd statudol o dan adran 89 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (fel y’i diwygiwyd) i sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, bod eu tir yn cael ei gadw’n glir o sbwriel (gan gynnwys gwastraff cŵn). Mae 'awdurdodau sbwriel' yn cyfeirio'n gyffredinol at awdurdodau lleol, ond mae hefyd yn cynnwys sefydliadau addysgol a'r Goron (yn achos ei dir ei hun ym mhob achos) a'r Ysgrifennydd Gwladol.

Yng Nghymru a Lloegr, gall awdurdodau lleol roi dirwyon yn y fan a’r lle, a elwir yn Hysbysiadau Cosb Benodedig, ar gyfer baw cŵn. Gall y swm amrywio fesul awdurdod lleol, ond gall fod hyd at £150. Os bydd rhywun yn gwrthod talu'r ddirwy, gellir mynd ag ef i'r llys a chael dirwy o hyd at £1,000.

Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr bwerau i fynd i'r afael â baw cŵn drwy gyhoeddi Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (Gorchmynion Rheoli Cŵn yn flaenorol).

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol fel baw cŵn mewn man cyhoeddus. Gall y Gorchmynion ei gwneud yn drosedd os yw perchnogion cŵn:

Gellir cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig os torrir yr amodau a osodwyd o dan y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

Ni all perchnogion cŵn sydd wedi’u cofrestru’n ddall gael dirwy.

 

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod baw cŵn yn fater y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd o ddifrif, ac er y gall gorfodi chwarae rhan wrth fynd i’r afael â’r broblem, ei nod fu canolbwyntio ar berchenogion cŵn cyfrifol. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi awdurdodau lleol a gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i godi ymwybyddiaeth drwy ymgyrchoedd cyfathrebu a rhaglenni addysg.

Mae’r llythyr yn amlinellu bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn monitro’r defnydd o Hysbysiadau Cosb Benodedig drwy’r arolwg data gorfodi blynyddol o awdurdodau lleol, ac yn cysylltu â swyddogion gorfodi er mwyn helpu i ddeall y camau sy’n cael eu cymryd ledled Cymru. Ar gyfer 2022/23, cyflwynwyd 66 o Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer troseddau baw cŵn ledled Cymru, sef cynnydd o 25 yn 2021/22.

Mae’r llythyr hefyd yn cyfeirio at waith arolwg gydag awdurdodau lleol a oedd yn nodi, er bod rhai materion gweithredol yn gysylltiedig â Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, er enghraifft y gofyniad i adolygu ac ymgynghori ar eu defnydd bob tair blynedd, roedd ffactorau lliniarol eraill yn y niferoedd cymharol isel o Hysbysiadau Cosb Benodedig yn cael eu cyhoeddi. Roedd hyn yn cynnwys cyfyngiadau cyllidebol, colli adnoddau staff oherwydd ymddeoliad neu adleoli ac nad oedd rhai awdurdodau lleol yn cyflogi cwmnïau gorfodi preifat mwyach. Nododd swyddogion awdurdodau lleol hefyd y gall fod yn anodd dal perchnogion cŵn anghyfrifol hyd yn oed gydag argaeledd adnoddau gorfodi. Y rheswm am hyn yw bod angen i swyddog gorfodi fod yn dyst i'r drosedd fel arfer ac mae llawer o ddigwyddiadau fel arfer yn digwydd y tu allan i'r oriau a weithir gan swyddogion gorfodi.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ar hyn o bryd nad oes unrhyw gynllun i gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn y maes hwn. Dywedodd fod gan awdurdodau lleol, fel cyrff statudol, gyfrifoldeb cyfreithiol i gadw eu tir yn glir o sbwriel (gan gynnwys gwastraff cŵn) a dywed yn y pen draw mai nhw sydd i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio’r amrywiol offer ac adnoddau sydd ar gael iddynt.

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Nid yw baw cŵn a chaeau chwaraeon wedi cael ei drafod yn y Senedd.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.